Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Yn y 1950au hwyr a'r 1960au cynnar, fe ddatblygodd Corfforaeth Abertawe gynllun i greu argae a chronfa ddŵr yng Nghwm Gwendraeth Fach. Pwrpas y gronfa arfaethedig fyddai i gyflenwi dŵr i ardal Abertawe. Fe fyddai adeiladu argae wedi arwain at foddi tir ffrwythlon, sawl ty fferm a nifer o dai yn agos at, ac o fewn, bentref Llangyndeyrn, a hefyd i fyny’r afon i bentref Porthyrhyd. Yn wir, o dan y cynllun, byddai pentref Llangyndeyrn ei hun wedi
Read moreMae ‘na hanner can mlynedd wedi mynd heibio bellach ers brwydr y gymuned leol i achub y pentref a Dyffryn Gwendraeth Fach rhag cael eu boddi i greu cronfa ddŵr. Mae’r dathliadau cynnar eisoes wedi dechrau ac maent wedi bod yn bleserus ac yn llwyddiannus iawn. Bydd yna ddigwyddiadau yn parhau drwy gydol y flwyddyn hon gan ddiweddu mewn uchafbwynt ym Mis Hydref 2013. Rydym yn gobeithio y bydd ein cyfres o ddathliadau yn parhau i fod yn llwyddiannus
Read moreNoson yng nghwmni Mererid Hopwood - Peint a Phennill, Tafarn y Ffermwyr, Llangyndeyrn 26ain Ionawr 2013 am 7:30 y.h Croeso cynnes i bawb.
Read moreBwriadai Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach gyhoeddi llyfr atgofion o hanes y frwydr yn ystod 1963. Byddwn yn dathlu 50 mlynedd ers y frwydr fawr yn ystod 2013Buasai’r awduron yn yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un sydd ag atgofion neu luniau o’r cyfnod er mwyn creu llyfr atgofion cynhwysfawr o’r achlysur.Cysylltwch â Gerwyn Rhys drwy e-bost gerwyn.rhys@googlemail.comneu / â John Thomas 07969601605
Read more