Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Mae'r fidio yma yn rhoi cip olwg sydyn o Gwm Gwendraeth a'r Gwendraeth Fach o'r awyr. Diolch i Gyngor Sir Gâr am ganiatâd i ddefnyddio’r ffilm.
Read moreDilyn Ddoe - Rhaglen deledu a ddarlledwyd ar S4C yn olrhain hanes y frwydr fawr yn 1963
Read moreCyfweliad Mr Arwyn Richards a Mr John Thomas ar raglen Prynhawn Da 03/04/2013
Read moreCynhaliwyd noson arbennig yn Nhafarn y Ffermwyr Llangyndeyrn yng nghwmni Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Arwel John a dau aelod o’r band Bromas sef Llew Hopwood ac Owain Huw. Diolch yn fawr iddynt am eu cyfraniad clodwiw ag am noson fythgofiadwy. Trefnwyd y noson gan aelodau o’r Pwyllgor Dathlu a diolch yn arbennig i Mrs Pugh am wneud y cysylltiad gwreiddiol. Fe gawsom gyfuniad o farddoniaeth ysgafn a dwys yn ogystal â detholiad o ganeuon yng
Read moreRhaglen deledu o 1983. Cyflwynydd Tweli Griffiths. Cliciwch ar y cyswllt i weld y ffilm.http://youtu.be/H4Wqim9n3IQ
Read moreCafodd noswaith Caws a Gwin ei gynnal ar y 28 Ebrill, 2012 a brofodd i fod yn gyflwyniad ag agoriad hynod lwyddiannus i’r dathliadau. Roedd Neuadd yr Eglwys Llangyndeyrn yn llawn i glywed cyflwyniad diddorol iawn a llawn gwybodaeth gan Mr Huw Williams, a oedd yn cynnwys ffilm a gynhyrchwyd yn flaenorol o ddigwyddiadau 1963. Yna fe gynhaliodd Mr Sulwyn Thomas, y cyflwynydd lleol Teledu a Radio, sesiwn holi ac ateb gyda 4 aelod o’r Pwyllgor Amddiffyn
Read more