Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
“Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.”
Cyfansoddiad a fabwysiadwyd ar yr 20fed Rhagfyr, 2011.
1. Enw
Enw’r mudiad yw “Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.”
2. Nodau
Trefnu cyfres o weithgareddau i ddathlu hanner can mlwyddiant achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach rhag cael eu boddi i greu argae a chronfa ddwr. Y gobaith ydyw cynnwys trawsdoriad o’r holl gymuned yn y dathliadau.
3. Aelodaeth
(1) Mae aelodaeth y Sefydliad yn agored i bawb yn y gymuned sydd â diddordeb mewn hyrwyddo’r nodau uchod.
(2) Bydd gan bob aelod un bleidlais.
(3) Gall y Pwyllgor Gwaith trwy bleidlais unfrydol ac am reswm da derfynu aelodaeth unrhyw unigolyn. Bydd gan yr unigolyn dan sylw yr hawl i gael ei glywed gan y Pwyllgor Gwaith, ynghyd â chyfaill, cyn bod penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.
4. Pwyllgor Gweithredol
Bydd y Pwyllgor yn cynnwys 17 o aelodau a fynychodd y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd, 2011 (gweler Atodiad A) ac fe benodwyd y swyddogion canlynol:
- Cyd-gadeiryddion: John M Thomas a David Thomas
- Ysgrifenyddes: Diana Thomas – Laidlaw
- Trysorydd: Christopher Smith
5. Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol a gweithgareddau
(1) Bydd y Pwyllgor Gweithredol yn sefydlu calendr o gyfarfodydd. Gall cyfarfodydd arbennig gael eu galw ar unrhyw adeg gan y Cadeiryddion neu gan unrhyw ddau aelod o’r Pwyllgor Gweithredol ar yr amod eu bod wedi rhoi dim llai na 4 diwrnod o rybudd i aelodau eraill y Pwyllgor.
(2) Y Cadeiryddion fydd yn cadeirio cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol. Os bydd y Cadeiryddion yn absennol o unrhyw gyfarfod, bydd aelodau’r Pwyllgor Gweithredol sy’n bresennol yn dewis un o’u plith i fod yn gadeirydd cyn i unrhyw fater arall gael ei drafod.
(3) Mae cworwm yn bodoli pan fydd o leiaf pedwar aelod o’r Pwyllgor Gweithredol yn bresennol yn y cyfarfod.
(4) Rhaid i bob mater gael ei benderfynu gan bleidlais y mwyafrif o aelodau’r Pwyllgor sy’n bresennol. Yn achos nifer cyfartal o bleidleisiau, bydd gan y Cadeirydd yr hawl i ail-bleidleisio.
(5) Bydd cofnodion yn cael eu cadw gan yr Ysgrifenyddes a bydd yn cael eu cymeradwyo yn y cyfarfod dilynol.
(6) Gall y Pwyllgor sefydlu un neu fwy o is-bwyllgorau a fydd yn cynnwys tri neu fwy o aelodau o’r Pwyllgor Gweithredol.
6. Derbyniadau a gwariant
(1) Rhaid i’r holl arian a gedwir gan y Pwyllgor gael ei dalu i gyfrif a weithredir gan y Pwyllgor Gwaith yn enw “Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach”. Rhaid i bob siec a godir o’r cyfrif gael ei llofnodi gan o leiaf ddau aelod o’r Pwyllgor Gwaith.
(2) Ni ddylid defnyddio arian sy’n eiddo i’r Mudiad ond i hyrwyddo’r nodau.
7. Cyfrifon
Dylai’r Pwyllgor Gweithredol gadw’r cofnodion ariannol a pharatoi cyfriflenni blynyddol, ynghyd â mantolen, a gaiff eu cyflwyno i aelodau’r Pwyllgor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a fydd yn diweddu ar 31 Mawrth, 2012.
(3) Dylai’r Pwyllgor sicrhau bod cyfriflenni’r mudiad yn cael eu harchwilio gan archwilydd annibynnol.
8. Cyfathrebu â deiliaid diddordeb
Bydd y Pwyllgor yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r deiliaid diddordeb am y datblygiadau o ran y dathliadau.
9. Mabwysiadwyd y cyfansoddiad
Mabwysiadwyd y cyfansoddiad hwn ar y dyddiad a grybwyllwyd uchod gan y rhai y mae eu llofnodion yn ymddangos ar waelod y ddogfen hon.
Cyd-gadeirydd: John M Thomas / David Thomas
Ysgrifenyddes: Diana Thomas – Laidlaw
Trysorydd: Christopher Smith.
Atodiad A
Cyfarfod Pwyllgor Dathlu Achub Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach.
15ed Tachwedd, 2011.
Presennol
Diana Thomas – Laidlaw - Ysgrifenyddes.
John M Thomas - Cyd – Gadeirydd
Tyssul Evans - Cynghorwr Sir
Alan Lewis - Menter Cwm Gwendraeth
Jayne Broderick - Ysgol y Fro
T J Arwyn Richards - Cyngor Cymuned
Peter Jones
Mary Pugh
Einir Griffiths
Brendan Griffiths
Hugh Williams
Robert Thomas
Gwydion Wynne
David Thomas – Cyd – Gadeirydd
Mark Jones
Ann Richards
Christopher Smith