Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Cyflwynodd Mr Tyssul Evans siec o £2000 i’r Pwyllgor Dathlu ar ran y Cyngor Cymuned yn Nhafarn y Gof, Llangyndeyrn ar y 19eg o Ebrill 2012. Diolchodd Mr John Thomas cyd gadeirydd y Pwyllgor Dathlu am y rhodd ac am gefnogaeth arferol y Cyngor Cymuned i’r pentref. Defnyddir y rhodd i ariannu nifer o weithgareddau a digwyddiadau penodol yn ystod y flwyddyn. Gweler rhestr o’r digwyddiadau ar y wefan.