Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Amserlen Drafft ar gyfer taith feicio o’r Bala i Langyndeyrn: 7-9 Mehefin 2013
Pwrpas y daith
Pwrpas y daith yw cofio brwydrau a gollwyd i achub cymunedau rhag boddi yn Llyn Celyn (Tryweryn), ger Y Bala, Llyn Clywedog ger Llanidloes, a gafodd ei foddi yn ogystal i gyflenwi dŵr ar gyfer Lloegr, a Llyn Brianne, a dyma lle benderfynwyd adeiladau yr argae yn hytrach na Chwm Gwendraeth Fach ac yn olaf wrth gwrs byddwn yn gorffen ein taith ym Mhwm Gwendraeth Fach lle brwydrodd y gymuned yn llwyddiannus yn y 60au rhag cael eu boddi.
Yn ystod taith 2013, mae hi’n bwysig i ni gofnodi cymaint o’r daith ag y bo modd a chael gwybod cymaint ag y gallwn am y cymunedau eraill y byddwn yn ymweld a dysgu am eu brwydr yn ôl yn y 50au a’r 60au. Mae angen i ni dynnu lluniau, fideo, trydar (@ Dathlu63), a blogio er mwyn diweddaru ein gwefan www.Llangyndeyrn.org. Gobeithiwn y byddwn yn cael darlledwr teledu i ffilmio’r daith fel rhan o’r dathliadau, ac i gofnodi’r stori trwy lygaid y bobl o’r cymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiadau hanesyddol. Gallai’r ffilm ei arddangos yn ystod wythnos y dathliadau ym mis Hydref, a’i uwch-lwytho ar ein gwefan fel cofnod parhaol o’r daith.
Dyddiadau cau i archebu llety
Pob enw i’w gadarnhau erbyn 7yh Dydd Gwener 1af o Fawrth i Ian Jones. Bydd unrhyw un sy’n dymuno dod ar ôl y dyddiad /amser yma yn gorfod archebu eu llety eu hunain.
Briffio’r beiciwr
Bydd cyfarfod briffio ar gyfer pawb sy’n bwriadu beicio’r cyfan neu ran o’r daith (125 milltir i gyd) yn cael ei gynnal yn Nhafarn y Ffermwyr am 7.30yh ar ddydd Mercher y 6ed o Fawrth, lle byddwn yn mynd drwy’r daith yn ei gyfanrwydd ac yn esbonio’r cwrs, y darnau hawdd â’r darnau dim mor hawdd!! Bydd angen i ni drafod nifer o faterion: y beiciau, storio, cludiant, cerbydau cymorth; cynnal a chadw, diogelwch, hyfforddiant, dillad, cyflymder ac yn y blaen.
Amserlen
7fed Mehefin 2013
Teithio i’r Bala yn eich hamser eich hun.
2yp Beicio neu gyrru i Lyn Celyn (Tryweryn)
6:00yh trefnu bwyd eich hunain yneich gwesty priodol neu gaffi / bwyty cyfagos
8.00yh Tafarn Yr Eryod (Eagles Inn) Llanuwchlyn (tua 5-6 milltir i ffwrdd): Talwrn y Beirdd rhwng tîm Llanuwchllyn, Tryweryn, Cwm Gwendraeth, a Chrannog. Dylan Tudur yw’r meurin, ac mae themau yn seliedig ar resymwaith y daith feicio
Aros yn eich gwesty priodol yn y Bala – White Lion a Phlas Coch
Dydd Sadwrn yr 8fed o Fehefin
7-8yb Brecwast (yn gynwysedig yn y pris)
8.30yb Beicwyr i gyfarfod ger y Llew Gwyn Bala a gadael yn teithio tuag at y De ar ffordd B4403, troi i’r chwith tuag at Bwlch y Groes (sef y ffordd fynydd uchaf yng Nghymru!!), a lawr y dyffryn tuag at Dinas Mawddwy. O’r fan honno teithio i’r De ar yr A470 i Mallwyd.
11yb (amcan amser) 20 milltir i fewn i’r daith, stopio yn Mallwyd am seibiant ganol bore – Brigands Inn, Mallwyd (I’w gadarnhau) (Pawb)
11.30yb (amcan amser) O Mallwyd, ewch tuag at y Dwyrain ar y A458 am ambell i filltir (tuag at Y Trallwng), a trowch i’r dde tuag at Pandy / Llanbrynmair. Cymherwch y B4518 i’r De tuag at Llanbrynmair (yn anelu at Staylittle / Llanidloes). Cyfle da i dynnu llun neu fidio yn Staylitte, wrth i ni ddilyn y ffordd oddi-amgylch Llyn Clywedog, ac anelu tuag at Llanidloes.
1.30yp (amcan amser) (41 milltir i fewn i’r daith). Seibiant am ginio yn Llanidloes (lleoliad i’w gadarnhau) (pawb)
2.30yp Gadael Llanidloes ar y B4518 ac anelu i’r De tuag at Rhayadr (tua 53 milltir i fewn i’r daith). Opsiwn i gael seibiant yn Rhayadr am tua 3:30 yp, neu parhau ar y A470 i’r De, yn uniongyrchol tuag at Builth, trwy Newbridge on wye (tua 61 milltir i fewn i’r daith).
4yp (amcan amser) Cyrraedd Llanfair-ym-Muallt (amcan amser o 66 milltir).
Aros mewn llety gwahanol o gwmpas Llanfair-ym-Muallt (Greyhound; Erris Villa, Smithfield House Guest & Woodland – opsiwn ar gyfer gwesty gwely a brecwast Pwll Gwilym, ond ychydig filltiroedd y tu allan i Llanfair-ym-Muallt ar y ffordd i Beulah). Trefnu prydau gyda’r nos ac adloniaint eich hunain.
Dydd Sul 9fed o Fehefin
Brecwast 7-8yb
8.30yb (man cyfarfod i’w gadarnhau) Gadael Llanfair-ym-Muallt i’r Gorllewin ar yr A483 tuag at Cilmeri, a Beulah. Yn Beulah, ewch i gyfeiriad Llwyn Madoc (mae angen i ddilyn map yma ar ffyrdd bach), ac i fyny at ‘Risiau’r Diafol’ (ochr ogleddol Llyn Brianne)
11yb (amcan amser) Aros wrth wal y Llyn Brianne (DS Bydd cyfleoedd i gael llun wrth i ni feicio o’r Gogledd i’r De i ddiwedd yr argae).
11.30yb Gadewch Brianne gan anelu tuag at Lanymddyfri drwy Cilycwm. Cymerwch ‘ ffordd gefn gwlad’ o Lanymddyfri drwy Llangadog / Bethlehem, gan ddod i Ffairfach.
1yp (amcan amser) Seibiant i gael cino yn Llandeilo (lleoliad i’w gadarnhau)
2yp Gadael Llandeilo a chymryd y ffordd i Golden Grove, Dryslwyn a Llanarthne. Trowch i’r chwith yn Llanarthne ac ewch tuag at y Gerddi Botaneg ger Pothyrhyd. Yn Porthyrhyd, ewch tuag at Llanddarog ac yna i lawr i Gwmisfael ac yn ôl i Langyndeyrn heibio giatiau Glan Yr Ynys (llun a chyfarfod pawb). Mae pawb, gan gynnwys plant yn beicio i lawr i’r pentref gyda’i gilydd.
4yp (amcan amser) Cyrraedd sgwâr Llangyndeyrn (Lluniau drws nesaf i’r gof golofn).
4.30yp Lluniaeth, bwyd a sgwrs yn Nhafarn y Ffermwyr, Llangyndeyrn!!
Y Daith
Mae’r daith yn gymysgedd o ddarnau hawdd, caled, a rhai yn galed iawn!! Mae’r beicio yn dibynnu ar y tywydd i ryw raddau, ond diogelwch sy’n cael y brif flaenoriaeth.
Mae’r testun uchod yn rhoi rhagflas i chi o’r daith (bydd mapiau manwl yn cael ei ddarparu hefyd)
Am ragor o fanylion am y daith, ewch i edrych ar ‘map my ride’
Bala i Llangyndeyrn (Llanidloes) 125.85 milltir
Gwybodaeth arall
Bydd offer cynnal a chadw beiciau ar gael. Bydd angen sicrhau bod y beic yn cael ei wasanaethu’n rheoliaidd a bod rhywfaint o diwbiau sbâr ar gael rhag ofn. Fe fydd cerbyd cymorth ar gael i gefnogi yn ogystal. Bydd y beicwyr yn gyfrifol am eu diogelwch eu hunain – rhaid gwisgo helmed.
Rhai cysylltiadau ychwanegol o’r daith:
http://www.walesdirectory.co.uk/Towns_in_Wales/Bala_Town.htm
http://dinas-mawddwy.wales.info/things-to-do-in-dinas%20mawddwy/
http://www.llanidloes.com/activities/index.html
http://www.rhayader.co.uk/index.php/rhayader/thingstodo/
http://www.walesdirectory.co.uk/Towns_in_Wales/Builth_Wells_Town.htm
http://www.discovercarmarthenshire.com/business/itinerary-5.html
Thanks / Diolch
Ian
IanJones15@hotmail.com
07974 006307
01269 871401