Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Cynhelir lansiad Sefyll yn y Bwlch, Brwydr Llangyndeyrn 1960-1965 nos Iau’r 24ain o Hydref yn Neuadd yr Eglwys, yn dilyn sgwrs Huw Williams â changhennau Merched y Wawr lleol (8 o’r gloch).
Dyma’r gyfrol gyntaf gynhwysfawr i adrodd hanes brwydr a ddisgrifiodd Gwynfor Evans fel ‘un o’r penodau disgleiriaf yn hanes diweddar Cymru’. Mae’n stori arwrol, ddramatig sy’n adrodd hanes brwydr Llangyndeyrn a Chwm Gwendraeth Fach yn erbyn corfforaeth bwerus â hawl cyfraith gwlad ganddi, rhag archwilio’u tiroedd a boddi’u cwm. Ysgrifennwyd y gyfrol gan y diweddar Barch. W. M. Rees, sef Ysgrifennydd y Pwyllgor Amddiffyn a enillodd y frwydr.
Mi fydd Hywel Rees, golygydd y gyfrol a mab y Parch. W. M. Rees yn llofnodi copïau o’r llyfr ar ddydd Sul cyntaf y dathliadau (20 Hydref) yn ogystal â noson y lansiad.