Cofio am y frwydr i achub cymuned rhag cael ei boddi

Cofio am y frwydr i achub cymuned rhag cael ei boddi

Mae hanner canrif wedi mynd heibio ers i gymuned fach amaethyddol yn Sir Gaerfyrddin ennill y frwydr i stopio cynlluniau i foddi eu tiroedd er mwyn cyflenwi dŵr i Abertawe.

Fe fydd y rhaglen Brwydr Llangyndeyrn ar S4C nos Sul, 20 Hydref yn adrodd hanes achub Cwm Gwendraeth Fach ym 1963 trwy gwrdd â theuluoedd y bobl a oedd wrth galon y frwydr.

Cafodd yr actores Sharon Morgan ei magu yn Llandyfaelog, ychydig o filltiroedd o’r ardal amaethyddol rhwng Llangyndeyrn a Phorthyrhyd yr oedd Corfforaeth Dŵr Abertawe am ei meddiannu o dan bryniant gorfodol ym 1963. Y bwriad oedd ei boddi i greu argae i gyflenwi dŵr i ardal Cyngor Tref Abertawe.

Hi sy’n cyflwyno’r rhaglen am hanes y frwydr ac mae’n credu bod ymgyrch y gymuned hon yn un arwrol sydd mewn perygl o gael ei hanghofio.

Meddai Sharon Morgan, “Dyma hanes am gymuned fach Gymraeg yn herio holl bwerau’r Llywodraeth. Mae’n llenwi fi gyda hyder am beth y gall ein cymunedau ni gyflawni. Rwy’n gobeithio y bydd pobl yn gwybod yr hanes o hyn ymlaen ac yn deall y negeseuon ofnadwy o bwysig sydd yn y stori – sef y gallwn sefyll lan yn erbyn pob math o bwerau sy’n ymddangos yn hollol anorchfygol a bod unrhyw beth yn bosibl.”

Ar ei siwrnai emosiynol mae Sharon Morgan yn cwrdd â theuluoedd rhai o brif ymgyrchwyr y frwydr, gan gynnwys teulu diweddar Gadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn, y Cynghorydd William Thomas a theulu’r diweddar ysgrifennydd, y Parch W M Rees.

Bydd yn ymweld â fferm Pant-teg i gwrdd ag un o’r ymgyrchwyr gwreiddiol Huw Williams, yn siarad ag Arwyn Richards o fferm y Llandre ac yn troi at gyfoeth o archif ffilm a phrint o’r cyfnod. Cawn atgofion R J Lillicrap, a oedd yn aelod o Gorfforaeth Dŵr Abertawe, a’r darlledwr Sulwyn Thomas, a oedd yn ohebydd ifanc gyda phapur lleol y South Wales Evening Post ar y pryd.

Mae’r ymgyrchydd Emyr Llewelyn, a oedd yn ganolog yn y frwydr ofer i achub Cwm Celyn rhag cael ei foddi i godi Llyn Tryweryn, yn disgrifio brwydr Llangyndeyrn fel un a oedd “yn safiad pwysicach nag un Tryweryn… gan iddi lwyddo a deillio o’r gymuned.”

Cawn weld pam wrth ail-fyw sut y gwnaeth y bobl leol atal swyddogion Cyngor Abertawe rhag mynd ar eu tiroedd i’w mesur a’u hasesu er bod ganddynt orchymyn llys i wneud hynny.

Mae agweddau o’r stori yn debycach i nofel antur. Cawn hanes am ysbïwr ar bwyllgorau cyngor Abertawe a oedd yn rhoi gwybod i ymgyrchwyr pryd yr oedd swyddogion y cyngor yn cyrraedd. Cawn glywed sut yr oedd Jack Smith, clochydd eglwys y plwyf, yn canu’r clychau i rybuddio’r ffermwyr bod y swyddogion ar eu ffordd.

Bu’r ymgyrch mor effeithiol fel y penderfynodd y cyngor chwilio am safle llawer mwy addas a thenau ei phoblogaeth yng ngogledd y sir ger Llanymddyfri a chodi cronfa ddŵr Llyn Brianne.

Meddai’r ffermwr Huw Williams o fferm Panteg, “Fe fyddwn i wedi colli fy mywoliaeth i gyd – doedd ‘da fi ddim byd i golli o frwydro. Yn bersonol, buaswn i wedi colli hanner can mlynedd o fywyd hapus a’r pleser o basio fe mlaen i’r genhedlaeth nesaf.”

 

About Author: admin

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>