Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Darllediad Dai Tomos BBC Cymru yn olrhain hanes y frwydr fawr yn 1963. Diolch yn fawr i gwmni Telesgop am greu rhaglen ardderchog yn edrych yn ôl ar yr hanes ac ymlaen i’r dyfodol.