Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Cynhaliwyd noson arbennig yn Nhafarn y Ffermwyr Llangyndeyrn yng nghwmni Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Arwel John a dau aelod o’r band Bromas sef Llew Hopwood ac Owain Huw. Diolch yn fawr iddynt am eu cyfraniad clodwiw ag am noson fythgofiadwy.
Trefnwyd y noson gan aelodau o’r Pwyllgor Dathlu a diolch yn arbennig i Mrs Pugh am wneud y cysylltiad gwreiddiol. Fe gawsom gyfuniad o farddoniaeth ysgafn a dwys yn ogystal â detholiad o ganeuon yng nghwmni dau o aelodau Bromas. Diolch i’r holl gyfranwyr am roi o’i amser am ddim ac am ddiddanu’r gynulleidfa.
Cafwyd ocsiwn ar y noson lle’r oedd cyfle i bidiwr llwyddiannus ddewis un allan o dair cerdd a gafodd eu creu’n arbennig ar gyfer yr achlysur. Fe fydd y ddwy gerdd arall yn cael ei gwerthu yn yr ocsiwn fawr yn yr Hydref. Crwydriad Crwbin oedd gyda’r bid buddugol. Codwyd £210 o bunnoedd o’r ocsiwn. Diolch yn fawr iawn i’r Crwydriaid am eu cyfraniad gwerthfawr. Edrychwn ymlaen i weld eich dewis doeth! Diolch i’r beirdd am ei cyfanweithiau.
Codwyd £600 mewn noswaith lwyddiannus a fydd yn cynorthwyo’r ymdrechion codi arian tuag at y dathliadau. Gweler fidio o’r noson ar ein gwefan.
Diolch yn fawr i bawb am ei cefnogaeth arferol.
1 Comment
Dafydd Jones
Feb 07, 2013
Flin i mi golli'r nosweth - roeddem yn sgio yn Ffrainc ar y pryd. Diolch o galon i bwy bynnag a wnaeth y fideo, roedd ei gwylio yn bleser o'r cychwyn i'r diwedd. Cofion gorau Dafydd