Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif
A gwthio yr allweddi ymhob clo.
Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif
Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
W.M.Rees
Yn y 1950au hwyr a’r 1960au cynnar, fe ddatblygodd Corfforaeth Abertawe gynllun i greu argae a chronfa ddŵr yng Nghwm Gwendraeth Fach. Pwrpas y gronfa arfaethedig fyddai i gyflenwi dŵr i ardal Abertawe.
Fe fyddai adeiladu argae wedi arwain at foddi tir ffrwythlon, sawl ty fferm a nifer o dai yn agos at, ac o fewn, bentref Llangyndeyrn, a hefyd i fyny’r afon i bentref Porthyrhyd. Yn wir, o dan y cynllun, byddai pentref Llangyndeyrn ei hun wedi cael ei effeithio’n fawr gan wal yr argae a fyddai yn cael ei adeiladu ar ochr ddwyreiniol y pentref. Byddai cartrefi wedi eu colli, bywoliaethau yn cael eu dinistrio a’r gymuned yn cael ei rhwygo. Yn syml, fe fyddai’r pentref ei hun a’r gymuned lleol wedi cael eu ddiffeithio gan gynllun o’r fath.
Yn ddealladwy, roedd y gymuned wedi eu dychrynu ag yn grac iawn gyda’r cynllun ac fe sefydlom Bwyllgor Amddiffyn i frwydro yn erbyn cynllun Corfforaeth Abertawe. Yn y dyddiau hynny, roedd gwrthwynebiad llwyddiannus i un o sefydliadau’r Llywodraeth yn anghyffredin (fel cafodd ei ddangos yng Ngogledd Cymru gyda boddi pentref Tryweryn i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn ym 1965). Trefnwyd y Pwyllgor Amddiffyn yn dda ac fe fuodd brwydr hir a chaled yn erbyn y cynllun gyda’r gwrthdaro rhwng y ddwy ochr yn cyrraedd uchafbwynt ym 1963 ym mhentref Llangyndeyrn ei hun.
Diolch byth, ar ôl gwrthwynebiad lleol sylweddol, fe fu rhaid i Gorfforaeth Abertawe ailystyried eu cynllun ag i benderfynnu datblygu argae yn Rhandirmwyn gan greu gronfa ddŵr Llyn Brianne.